Cronfa ddŵr yng Ngheredigion yw Cronfa Nant-y-moch, a leolir ychydig i'r gorllewin o gopa Pumlumon. Ffurfiwyd y gronfa, sydd ag arwynebedd o 66.8 cilometr sgwar, yn 1964 trwy adeiladu argae ar draws Afon Rheidol. Saif yr argae rhyw dair milltir i'r gogledd o bentref Ponterwyd ym mryniau Elenydd.
Pentref yng Ngheredigion yw Ponterwyd, a leolir tua 12 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth ar lôn yr A44 rhwng y dref honno a Llangurig. I'r de mae pentref hanesyddol Ysbyty Cynfyn. I'r gogledd ceir moelydd llwm Pumlumon. Rhed Afon Rheidol i'r de o'r pentref.
Mae Pen Pumlumon Arwystli yn gopa mynydd a geir ym Mhumlumon rhwng Aberystwyth a'r Trallwng; cyfeiriad grid SN814877. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 677 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Pen Pumlumon Llygad-bychan is a subsidiary summit of Pen Pumlumon Fawr and the third highest summit on the Plynlimon massif, a part of the Cambrian Mountains in the county of Ceredigion, Wales. It is not named on Ordnance Survey walking maps.
Mae Pumlumon Fawr (Plynlimon) yn gopa mynydd a geir ym Mhumlumon rhwng Aberystwyth a'r Trallwng; cyfeiriad grid SN789869. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 228 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Uchder y copa o lefel y môr ydy 752 metr (2467 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Mae Pumlumon Fach yn gopa mynydd a geir ym Mhumlumon rhwng Aberystwyth a'r Trallwng; cyfeiriad grid SN787874. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 644 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Mae Y Garn yn gopa mynydd a geir ym Mhumlumon rhwng Aberystwyth a'r Trallwng; cyfeiriad grid SN775851. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 628 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Ceir Carnedd gron y Garn, Eisteddfa-Gurig ar y llethrau.
Pentref bychan yng ngogledd Ceredigion yw Ystumtuen. Fe'i lleolir tua 10 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth, yn y bryniau rhwng Ponterwyd a Phontarfynach. Fe gyrhaeddir ato naill ai trwy droi oddi ar yr A44 ger Nant-yr-Arian i gyfeiriad Bwa Drain, neu ar hyd allt serth yr Henriw. Mae'n rhan o gymuned Blaenrheidol, gyda Ponterwyd.
Cronfa ddŵr yn sir Ceredigion yw Cronfa Dinas. Creuwyd y llyn ar afon Rheidol trwy godi argae ar yr afon honno fel rhan o waith hydroelectrig Cwm Rheidol.
Mae Drosgol yn gopa mynydd a geir ym Mhumlumon rhwng Aberystwyth a'r Trallwng; cyfeiriad grid SN759878. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 355 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Cymuned yng Ngheredigion yw Blaenrheidol. Saif o amgylch rhan uchaf Afon Rheidol, i'r dwyrain o Aberystwyth. Mae'n cynnwys copa Pumlumon a dwy gronfa ddŵr fawr, Cronfa Nant y Moch a Chronfa Dinas, yn ogystal â phentrefi Ponterwyd ac Ystumtuen. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 493.
Pentrefan yng nghymuned Blaenrheidol, Ceredigion, Cymru yw Llywernog, sydd 70.7 milltir (113.7 km) o Gaerdydd a 171 milltir (275.1 km) o Lundain.
Pentrefan yng nghymuned Blaenrheidol, Ceredigion, Cymru yw Ysbyty Cynfyn, sydd 69.1 milltir (111.3 km) o Gaerdydd a 169.3 milltir (272.4 km) o Lundain.
Pentref gwledig bychan yng Ngheredigion, Cymru, yw Eisteddfa Gurig. Saif bron ar y ffin rhwng Ceredigion â Phowys. Mae ar ffordd yr A44 tua hanner ffordd rhwng Aberystwyth i'r gorllewin a Rhaeadr Gwy i'r dwyrain. Saif bron ar y ffin rhwng Ceredigion â Phowys. Fe'i lleolir ar y bwlch ar y ffordd honno gyda bryniau Pumlumon i'r gogledd. Rhed Afon Tarenig trwy Eisteddfa Gurig i gyfeiriad y dwyrain i ymuno yn Afon Gwy yn is i lawr y cwm.
Mae Pen Pumlumon Llygad-bychan (is-gopa) yn gopa mynydd a geir ym Mhumlumon rhwng Aberystwyth a'r Trallwng; cyfeiriad grid SN801873. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 723metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Mae Pencerrigtewion yn gopa mynydd a geir ym Mhumlumon rhwng Aberystwyth a'r Trallwng; cyfeiriad grid SN800881. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Mae Disgwylfa Fawr yn gopa mynydd a geir ym Mhumlumon rhwng Aberystwyth a'r Trallwng; cyfeiriad grid SN737847. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 355 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Gorwedd Llyn Llygad Rheidol tua 540 metr i fyny mewn cwm ychydig i'r gogledd o gopa Pumlumon yng ngogledd-orllewin Ceredigion. Fel y mae'r enw yn awgrymu, y llyn hwn yw tarddle traddodiadol afon Rheidol.
Llyn yng ngogledd Ceredigion yw Llyn yr Oerfa. Fe'i lleolir gerllaw pentref Ystumtuen, tua 10 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth, yn y bryniau rhwng Ponterwyd a Phontarfynach. Mae'n rhan o gymuned Blaenrheidol.